Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg | Inquiry into Welsh in Education Strategic Plans

 

WESP 29

Ymateb gan : Cyngor Gwynedd

Response from : Gwynedd Council

Cwestiwn 1

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir yng Nghynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Llywodraeth Cymru?

Canolbwynt y cynlluniau yw’r targedau a geir yn Strategaeth Ll.C., a chan bod gofyn statudol ar yr Awdurdodau i adrodd yn flynyddol ar eu cynnydd yn erbyn y targedau hyn, credir eu bod yn cyfrannu at y deilliannau a’r targedau a nodir.

 

Dehonglir y Strategaeth yng nghyd-destun Polisi Iaith Cyngor Gwynedd a thrwy hynny wireddu’r deilliannau.  Mae’r Awdurdod yn sicrhau bod y prif elfennau yn cael eu hadlewyrchu ac yn cael sylw priodol yn y Cynllun Strategol statudol hwn.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn cyfrannu ddigon, sut y gellir datrys hyn?

 

Cwestiwn 2

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau’r newidiadau angenrheidiol mewn awdurdodau lleol, neu a allant wneud hynny (er enghraifft, sicrhau eu bod yn darparu ar gyfer unrhyw gynnydd yn y galw am addysg Gymraeg)?

Mae’r ffaith bod y cynllun yn statudol ers 1 Ebrill 2014 yn fodd i’r Awdurdod rymuso ei weithdrefnau gan sicrhau ei fod yn cyfrannu at gyflawni nodau a thargedau Llywodraeth Cymru a amlinellir yn y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

 

Mae pob Aelod Etholedig yng Ngwynedd wedi derbyn copi o’r cynllun a hynny fel arwydd o’u hymrwymiad i weld yr hyn a nodir ynddo yn cael ei gyflawni ac er mwyn i bawb gyfrannu at y trafodaethau a’r gweithredu ymhob un o’r sefydliadau addysgol.

Os ydych o’r farn nad yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau newidiadau, neu na allant wneud hynny, sut y gellir datrys hyn?

 

Cwestiwn 3

Beth yw eich barn ar y trefniadau ar gyfer pennu targedau; monitro; adolygu; cyflwyno adroddiadau; cymeradwyo a chydymffurfio â gofynion Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (a rôl awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru yn y cyswllt hwn)?

O safbwynt y drefn yng Ngwynedd, sefydlwyd gweithgor sydd gyda traws doriad eang o gynrychiolwyr (ysgolion, Aelodau Etholedig, Ymgynghorydd Her, Swyddogion, Mudiad Meithrin, Consortiwm Ôl-16) i fod yn gyfrifol am bennu targedau, monitro, adolygu a.y.y b.  Mae’r gweithgor yn fodd i gynnal trafodaeth lawn ar yr uchod ac mae’r gweithdrefnau hynny’n briodol.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

Cwestiwn 4

Yn eich barn chi, a yw Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn amlygu rhyngweithio effeithiol rhwng strategaeth addysg Gymraeg Llywodraeth Cymru a deddfwriaeth a pholisïau perthnasol eraill*?
(*er enghraifft, polisi cludiant ysgolion; rhaglen Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain; y datganiad polisi - Iaith fyw:iaith byw; Dechrau’n Deg; polisi cynllunio)?

Credir bod y cynlluniau yn rhoi ystyriaeth i ddeddfwriaethau a pholisïau eraill.

Roedd canllawiau’r Llywodraeth yn nodi’n glir bod gofyn i awdurdodau ymgynghori â rhanddeiliaid dynodedig a chafwyd mewnbwn gan yr asiantaethau perthnasol wrth lunio’n cynllun.

Os ydych o'r farn bod problemau yn y maes hwn, sut y gellir eu datrys?

 

 


 

Cwestiwn 5

Yn eich barn chi, a yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg i bob disgybl, gan gynnwys er enghraifft, disgyblion cynradd / uwchradd; plant o gartrefi incwm isel?

Oherwydd mai craidd yr hyn a wneir yng Ngwynedd yw gwireddu amcanion y cynllun, mae pob plentyn yn cael canlyniadau teg ym mhob maes addysgol.

 

Nod Polisi Iaith Gwynedd yw sicrhau bod holl ddisgyblion y sir yn meddu ar ddwyieithrwydd cytbwys, oed-berthnasol er mwyn eu galluogi i fod yn aelodau cyflawn o’r gymdeithas ddwyieithog y maent yn rhan ohoni.  Wrth ddwyieithrwydd oed berthnasol golygir bod disgyblion yn meddu ar sgiliau ieithyddol priodol yn Y Gymraeg a’r Saesneg.

 

Yn ogystal â datblygu hyfedredd disgyblion yn y ddwy iaith, disgwylir i holl sefydliadau addysg y sir adlewyrchu ac atgyfnerthu’r Polisi Iaith yn eu gweinyddiad, eu bywyd cymdeithasol a’u trefn fugeiliol yn ogystal ag yn eu darpariaeth gwricwlaidd. 

Os ydych o’r farn nad yw canlyniadau’r Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn sicrhau canlyniadau teg, sut y gellir datrys hyn?

 

Cwestiwn 6

Os byddai'n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o'r holl bwyntiau rydych wedi'u nodi, beth fyddai'r argymhelliad hwnnw?

Ystyried priodoldeb cynnwys Grant y Gymraeg mewn Addysg yn y Grant Gwella Addysg o ystyried mai prif ddiben Grant y Gymraeg mewn Addysg oedd rhoi cymorth ar lefel ranbarthol a lleol i weithredu Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg Llywodraeth Cymru.  Mae cysylltiad uniongyrchol rhwng y grant a’r Cynlluniau Strategol, a nod y ddau yw cyflawni deilliannau’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg.

Cwestiwn 7

A oes gennych unrhyw sylwadau neu faterion eraill yr hoffech eu codi na soniwyd amdanynt yn y cwestiynau penodol?